Enghraifft o'r canlynol | languoid class |
---|---|
Math | tafodiaith |
Y gwrthwyneb | geolect |
Mae sosiolect yn derm mewn ieithyddiaeth am ddull arbennig o siarad neu ysgrifennu lle mae pobl o'r un dosbarth cymdeithasol, proffesiwn, oedran neu grŵp arall yn defnyddio geiriau a ffurfiau penodol.
Mae sosiolect yn wahanol i dafodiaith ardal (regiolect) am ei fod yn disgrifio dosbarth cymdeithasol neu grŵp penodol, yn hytrach na'r wahanol ffyrdd o siarad o ardal i ardal.[1]
Mae'r term sosiolect yn cynnwys sut mae person yn dod i ddefnyddio mathau o gyfathrebu trwy gysylltiad â grŵp penodol o bobl, efallai heb wybod eu bod yn gwneud hynny. Mae'r term hefyd yn cynnwys sut mae pobl yn dewis yn fwriadol a dysgu defnyddio mathau o gyfathrebu i 'ffitio mewn'.[2]
Mae'r term sosiolect yn gallu cyfeirio at ffordd o siarad neu ysgrifennu sy'n cael eu defnyddio gan grŵp cyfyngedig iawn o bobl. Weithiau mae'n cael ei drin fel y syniad o arddull (cywair iaith) neu jargon neu slang yn fwy cyffredinol.[3]
Enghreifftiau o sosiolect:
Mae sosiolect yn aml yn dangos hunaniaeth y grŵp i bobl eraill, i'w wahanu oddi ar grwpiau eraill ac i gadw pobl o ddosbarth neu gefndir arall allan.
Weithiau, mae pobl sydd ddim yn defnyddio Sosiolect arferol y grŵp yn gallu wynebu beirniadaeth, tynnu coes neu gael eu heithrio'n llwyr o'r grŵp. Mae academyddion yn defnyddio'r termau 'porthgadw diwylliannol' (Cultural gatekeeping) a 'hylendid ieithyddol' (Linguistic hygine).
Yn aml iawn, mae pobl yn newid yn ôl ac ymlaen rhwng defnyddio sosiolect arbennig a ffyrdd eraill o siarad neu ysgrifennu yn ôl y sefyllfa a phwy sydd o'u hamgylch. Mae academyddion yn defnyddio'r termau newid cod a diglosia wrth astudio'r arferion yma.